Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Mehefin 2023
Amser:
09.15 -
12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13355
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Kat Watkins, UNCRDP Development Officer, Anabledd Cymru Megan Thomas, Swyddog Polisi, Anabledd Cymru Zoe Richards, Learning Disability Wales Adele Rose Morgan, Learning Disability Wales Georgia Miggins, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru Karen McFarlane, Plant yng Nghymru Francesca Wright, Snap Cymru Cath Lewis, Cŵn Tywys Cymru Chris Haines, Cymdeithas Awtistiaeth Cymru George Baldwin, Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Gwen Anslow, All Wales Forum |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
2 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anabledd Cymru, a chafwyd ymddiheuriadau gan Miranda Evans a oedd yn methu â dod i’r sesiwn.
2.2 Cytunodd Anabledd Cymru i ymchwilio ymhellach i ddarparu gwybodaeth am fynediad i ofal plant a data ar blant anabl sydd â Saesneg fel ail iaith.
3 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 4
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anabledd Dysgu Cymru.
3.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu sylwadau rhieni a gofalwyr ynghylch gallu plant ag anableddau i fynd i ysgol brif ffrwd leol.
3.3 Gwnaethant gytuno i roi ymatebion ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na roddwyd sylw iddynt.
4 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 5
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan TSANA.
4.2 Gwnaethant gytuno i roi enghreifftiau gan Fudiad Meithrin ar y rhwystrau i gael mynediad at ofal plant i blant sy'n niwrowahanol neu sydd ag anabledd dysgu. Gwnaethant gytuno hefyd i ddarparu rhagor o enghreifftiau o hygyrchedd yr ystâd ysgolion i ddysgwyr sydd â phob math o anableddau.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
8 Gwrandawiad cyn penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafod yr adroddiad drafft
8.1 Cytunwyd ar yr adroddiad drafft, a fyddai'n cael ei osod ar 8 Mehefin.